Blwch offerIeithoedd eraill
|
Yr Ariannin
Mae Gweriniaeth yr Ariannin (Sbaeneg: República Argentina
[golygu] HanesPrif Erthygl: Hanes yr Ariannin Ceir olion y trigolion cyntaf yn y tiroedd sy'n awr yn ffurfio yr Ariannin yn rhan ddeheuol Patagonia tua 13,000 o flynyddoedd yn ôl. Daeth gogledd-orllewin o wlad yn rhan o ymerodraeth yr Inca yn ail hanner y 15fed ganrif, a ceir y cofnodion cynharaf yn ffurf quipu yn y cyfnod hwnnw. Dechreuodd hanes ysgrifenedig y wlad gyda dyfodiad yr Ewropeaid i'r rhanbarth yn gynnar yn yr 16eg ganrif. Y cyntaf i gyrraedd yno oedd y Sbaenwr Juan Díaz de Solís a'i ŵyr yn 1516. Yn 1776 sefydlodd y Sbaenwyr y Virreinato del Río de la Plata o nifer o diriogaethau blaenorol. Wedi Gwrthryfel Mis Mai yn 1810, sefydlwyd nifer o wladwriaethau annibynnol, yn cynnwys un yn dwyn yr enw Provincias Unidas del Río de la Plata. Cyhoeddwyd annibyniaeth ar 9 Gorffennaf 1816, a gorchfygwyd y Sbaenwyr mewn brwydr yn 1824. Sefydlwyd Gweriniaeth yr Ariannin rhwng 1853 a 1861, Roedd adegau o groestyniad gwleidyddol rhwng y ceidwadwyr a'r rhyddfrydwyr, ac rhwng ymbleidiau sifil a milwrol. Ar ol yr Ail Rhyfel y Byd gwelwyd dyrchafiad y mudiad poblogol Peronistaidd. Roedd juntas gwaedlyd bob yn ail efo llywodraethau democratig tan 1983, yn dilyn problemau economaidd mawr, a'r trechiad yn Rhyfel y Falklands. Ers dymchwel y junta milwrol ym 1983, mae pedwar etholiad rhydd wedi cadarhau lle'r Ariannin fel gweriniaeth ddemocrataidd, er gwaethaf gwaethygiad economaidd difrifol yn 2001 a dechrau 2002. [golygu] GwleidyddiaethPrif Erthygl: Gwleidyddiaeth yr Ariannin Mae cyfansoddiad yr Ariannin, sydd yn dyddio o 1853 (wedi'i ddiwygio yn 1994), yn gwahanu nerthoedd y canghennau gweithredol, deddfwriaethol a barnwrol ar y lefelau cenedlaethol a thaleithiol. Ni all yr arlywydd na'r is-arlywydd gael eu hethol am fwy na dau dymor o bedair blynedd yn olynol. Gellir sefyll am drydydd tymor neu fwy ar ôl egwyl o un tymor neu fwy. Mae'r arlywydd yn penodi gwenidogion y llywodraeth ac mae'r cyfansoddiad yn rhoi llawer o rym iddo fe fel pennaeth y wladwriaeth a phennaeth y llywodraeth, yn cynnwys yr awdurdod i wneud cyfreithiau trwy ddyfarniad arlywyddol pan fo amodau "pwysig ac anghenrheidiol". Senedd yr Ariannin yw'r Gyngres Genedlaethol dwy siambr, neu'r Congreso Naciónal, sy'n cynnwys y senedd (y Senado) o 72 o seddi a Siambr Dirpwyon (y Cámara de Diputados) o 257 o aelodau. Ers 2001 mae pob talaith, gan gynnwys y Brifddinas Ffederal, yn ethol 3 seneddwr. Mae'r Seneddwyr yn cael eu ethol am dymor o 6 blynedd, gydag etholiadau am draean o'r Senedd pob dwy flynedd. Mae aelodau Siambr y Dirpwyon yn cael eu hethol am 4 blynedd, a hanner y Siambr yn cael ei ethol bob dwy flynedd. [golygu] TaleithiauPrif Erthygl: Taleithiau'r Ariannin Mae gan yr Ariannin 23 talaith (provincias, unigol provincia), ac un rhanbarth ffederal (distrito federal) (a nodir gyda *)
[golygu] DaearyddiaethPrif Erthygl: Daearyddiaeth yr Ariannin Gellir rhannu'r Ariannin yn dri darn: gwastadedd ffrwythlon y Pampas dros hanner gogleddol y wlad, calon cyfoeth amaethyddol yr Ariannin; y llwyfandir Patagonia yn hanner de'r wlad ac yn ymestyn i lawr i ynys Tierra del Fuego; a mynyddoedd yr Andes yn y gorllewin. Mae mynyddoedd uchaf yr Andes ar y ffin ogleddol rhwng Chile ac Ariannin, Y mynydd uchaf yw Aconcagua, sydd 6,959 m uwchlaw lefel y môr - y mynydd uchaf ar gyfandir America a'r mynydd uchaf yn y byd tu allan i Asia. Mynyddoedd uchaf yr Ariannin yw:
Mae'r prif afonydd yn cynnwys y Paraguay, Bermejo, Colorado, Uruguay a'r hwyaf, y Paraná. Mae'r ddwy olaf yn ymuno â'i gilydd cyn cyrraedd y Môr Iwerydd, i ffurfio aber y Río de la Plata (Afon Plât). Mae hinsawdd yr Ariannin yn dymherus gan fwyaf, ond gyda hinsawdd isdrofannol yn y gogledd a sych/is-Antarctig yn y de pell. [golygu] EconomiPrif Erthygl: Economi'r Ariannin Mae gan yr Ariannin adnoddau naturiol gwerthfawr, poblogaeth wybodus iawn, amaeth da, a sylfaen ddiwydiannol amrywiol. Fodd bynnag, yn y 1980au hwyr bu dyledion rhyngwladol yr Ariannin yn codi'n enfawr, a graddfa chwyddiant wedi cyrraedd 200% y mis, a cynnyrch economaidd yn syrthio. I wella'r argyfwng economaidd, dechreuodd y llywodraeth ar ffordd i rhyddfrydoli masnach, di-rheoli, a preifateiddio. Yn 1991 daeth y peso eu sefydlu i'r Doler Americanaidd. Roedd y diwygiadau yn llwyddiannus yn y dechrau, ond roedd argyfyngau economaidd hwyrach yn Mecsico, Asia, Rwsia a Brasil yn gwaethygu pethau o 1999 i flaen. Yn 2001 dymchwelodd y system bancio, ac roedd y peso yn nofio yn erbyn y doler ers Chwefror 2002. Ers hynny mae'r sefyllfa economaidd wedi gwella'n sylweddol. [golygu] DemograffaethPrif Erthygl: Demograffaeth yr Ariannin Mae pobl yr Ariannin yn dod o lawer o grwpiau cenedlaethol ac ethnig, gyda disgynyddion pobl o'r Eidal a Sbaen yn y mwyafrif. Mae tua 500,000 o bobl o'r Canol Ddwyrain (Syria, Libanus, a gwledydd eraill) yn byw yn y dinasoedd. Y Sbaeneg yw'r unig iaith swyddogol. [golygu] Diwylliant[golygu] Llenyddiaeth
José Hernández, awdur y llyfr Martín Fierro.
Daeth llenyddiaeth yr Ariannin i sylw rhyngwladol yn rhan olaf y 19eg ganrif gyda chyhoeddi'r llyfr Martín Fierro gan José Hernández. Cyfieithwyd y llyfr yma i dros 70 iaith. Ymhlith prif lenorion yr 20fed ganrif mae Jorge Luis Borges, Julio Cortázar a Juan Gelman, ill tri ymhlith awduron Sbaeneg pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Cyhoeddwyd cryn dipyn o lenyddiaeth Gymraeg gan drigolion y Wladfa hefyd. Yr enwocaf o lenorion y Wladfa yw Eluned Morgan ac R. Bryn Williams. [golygu] Cerddoriaeth a dawnsDaeth y tango yn enwog fel dull o ddawnsio ac arddull cerddorol, gyda Buenos Aires fel canolbwynt. Gelwir Carlos Gardel yn "Frenin y Tango". [golygu] Chwaraeon
Diego Maradona, yr enwocaf o beldroedwyr yr Ariannin
Peldroed yw'r mwyaf poblogaidd o'r chwaraeon yn yr Ariannin. Enillodd y tîm cenedlaethol Gwpan Peldroed y Byd yn 1978 a 1986. Y mwyaf adnabyddus o beldroedwyr y wlad yw Diego Armando Maradona. Mae boscio hefyd yn boblogaidd, ac mae mwy na 30 o Archentwyr wedi dal pencampwriaeth y byd. Enillodd yr Ariannin bencampwriaeth Pêl Fasged y byd yn 1950. Cafwyd cryn lwyddiant mewn tenis hefyd, gyda Guillermo Vilas a Gabriela Sabatini yn nodedig. Daeth Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Ariannin yn drydydd yng Nghwpan y Byd yn 2007. Enw adnabyddus arall ym maes chwaraeon yw'r gyrrwr Fformiwla Un Juan Manuel Fangio, a enillodd bencampwriaeth y byd bum gwaith yn y 1950au. [golygu] Cysylltiadau allanol
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||