Blwch offerIeithoedd eraill
|
Saesneg
Iaith frodorol Lloegr ydyw Saesneg (Saesneg: English). Mae'n un o ddwy iaith swyddogol Cymru (ynghyd â'r Gymraeg) yn ogystal, ac yn un o ieithoedd mwyaf y byd. Datblygodd y Saesneg o iaith y llwythau Germanaidd ag ymsefydlodd yn Prydain rhwng y bumed a'r seithfed ganrif gan ddisodli'r Brythoniaid brodorol o rannau helaeth o dde Prydain a chreu'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd. Erbyn y ddegfed ganrif 'roedd y teyrnasoedd hyn wedi uno i greu teyrnas Lloegr. Lledodd y Saesneg drwy'r byd yn sgîl anturiaethau imperialaidd y Saeson a arweiniodd at greu gwladfeydd Seisnig mewn sawl rhan o'r byd. Oherwydd ei lle fel iaith mwyaf yr Unol Daleithiau, mae Saesneg wedi dod yn brif iaith y byd ar gyfer cyfathrebu rhyngwladol. Dysgir Saesneg fel ail iaith yn amlach nag unrhyw iaith arall, ond y ffurf Americanaidd ar yr iaith a ddysgir yn amlach na'r ffurf Seisnig. Mae llenyddiaeth Saesneg yn un o'r llenyddiaethau mwyaf yn y byd, a'i gwreiddiau'n gorwedd yn y cyfnod Eingl-Sacsonaidd. Mewn canlyniad i'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a'r Seisnigeiddio yn y wlad, mae gan Gymru ei lenyddiaeth Saesneg hefyd: ysgrifennodd Dylan Thomas ei storïau a'i gerddi yn Saesneg, er enghraifft. [golygu] Ymadroddion
[golygu] Gramadeg SaesnegMae gramadeg yr iaith Saesneg yn weddol debyg i'r Gymraeg i gymharu â Tsieiniaidd er enghraifft, gan fod y ddwy iaith yn dod o'r teulu Indo -Ewropeaidd. Serch hyn mae grammadeg y ieithoedd Romawns ac Almaeneg llawer yn fwy tebyg i Saesneg nag yw Cymraeg. [golygu] Gweler hefydArgraffiad Saesneg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
|
|||||||||||||||||||||||||||||