Gwlad yn Ne America yw Paraguay, yn swyddogol Gweriniaeth Paraguay (hefyd: Paragwâi, Paragwai). Mae'n gorwedd ar ddwy lan Afon Paraguay yng nghanol y cyfandir ac mae'n ffinio â'r Ariannin i'r de a de-orllewin, â Brasil i'r dwyrain a gogledd-ddwyrain ac â Bolivia i'r gogledd-orllewin.