Blwch offerIeithoedd eraill
|
MytholegMytholeg (Groeg: μυθολογία "adrodd chwedlau", o μῦθος muthos, "chwedl", a λόγος logos, "adroddiad, araith") yw corff neu gylch o chwedlau sy'n dwyn perthynas â bywyd ysbrydol neu grefyddol diwylliant neu bobl neilltuol, yn bennaf neu'n wreiddiol yn y traddodiad llafar. Yn aml mae'r traddodiadau a chwedlau hyn yn ymwneud â bodau a digwyddiadau goruwchnaturiol neu ddwyfol ac yn cynnig esboniad ynglŷn â natur Dyn a'r Bydysawd. Yn yr ystyr fodern mae'r gair mytholeg yn cyfeirio yn ogystal at yr astudiaeth wyddonol o'r cyfryw chwedlau a thraddodiadau. Mae llên gwerin a'r astudiaeth ohoni yn perthyn i fytholeg hefyd, er bod y chwedlau gwreiddiol wedi newid eu naws a'u harwyddocád yn aml, neu wedi'u cymysgu ag elfennau eraill. [golygu] Gweler hefyd |