|
|
Myanmar
Gwlad yn ne-ddwyrain Asia yw Undeb Myanmar neu Myanmar (hefyd cyn i 1989 Undeb Burma neu Burma (hefyd Byrma neu Bwrma)). Mae'n ffinio â Bangladesh i'r gorllewin, India i'r gogledd-orllewin, Gweriniaeth Pobl China i'r gogledd-ddwyrain, Laos i'r dwyrain a Gwlad Thai i'r de-ddwyrain. Mae llywodraethau milwrol yn rheoli'r wlad ers 1962.
[golygu] Daearyddiaeth
Lleolir Myanmar rhwng Bangladesh a Gwlad Thai, â China i'r gogledd ac India i'r gogledd-orllewin, efo arfordir ar Bae Bengal a'r Môr Andaman. Mae gan y wlad gyfanswm arwyneb o 678,500 km² (261,970 mi sg.), gyda bron ei hanner yn goedwig neu goetir. Yn dopograffegol, ar ei ffiniau â India a China yn y gorllewin mae gan y wlad fynyddoedd sy'n amgylchynu iseldir canolog o gwmpas Afon Ayeyarwady, ac sy'n ffurfio delta ffrwythlon lle mae'n llifo i'r môr. Mae rhan fwyaf poblogaeth y wlad yn byw yn yr iseldir canolog yma.
[golygu] Gwleidyddiaeth
[golygu] Diwylliant
[golygu] Dolenni allanol
|