Mur Mawr Tsieina

Mur Mawr Tseina
Mur Mawr Tseina

Hen amddiffynfa Tsieineaidd yw Mur Mawr Tsieina (長城, 长城, "Dinas Hir"). Ystyrir ei fod yn un o ryfeddodau'r byd. Os cynhwysir y muriau atodol sydd hefyd yn rhan ohono, mae'r Mur Mawr yn ymestyn am 50,000km. Mae'n ymestyn o'r ffin bresennol rhwng Tsieina a Gogledd Corea i fynyddoedd Qian Shang yng ngorllewin Tseina.

Dywedir yn gyffredinol bod y mur cyntaf wedi ei adeiladu yn y 3edd ganrif C.C. yn ystod teyrnasiad Qin Shi Huang (Ying Zheng), Ymerodwr Cyntaf Brenhinllin y Qin, ond mewn gwirionedd codwyd rhan gyntaf y Mur Mawr mor gynnar â'r 7fed ganrif C.C.. Hyd at yr 17eg ganrif O.C. roedd ymerodrau Tsieina yn dal i adnewyddu ac ehangu'r Mur.

Roedd yn fwy nac amddiffynfa yn unig. Bu iddo rôl pwysig yn y rhwydwaith cludiant dros dir Canolbarth Asia i'r Dwyrain Canol ac Ewrop a elwir Llwybr y Sidan ac mewn datblygiadau diwylliannol ac economaidd o boptu iddo yn ogystal.

Mae'r rhannau mwyaf enwog heddiw i'w gweld yn Shanhaiguan, Gubeikou, Juyongguan, Badaling, Ynamenguan, Ningwuguan, Jiayuguan a Lintao.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Luo Zhewen a Zhao Luo, The Great Wall of China in History and Legend (Beijing, 1986). ISBN 0835114546

system wymiany linków system wymiany linków SEO Tools system wymiany linków tanie kredyty gotówkowe kreatyna Plaza 3 star hotel Los Angeles krynica noclegi Sejm Tyk