John Parry (golygydd)

Am bobl eraill o'r un enw gweler John Parry.

Athro a golygydd oedd John Parry (1812 - 1874), a gofir yn bennaf fel prif olygydd Y Gwyddoniadur Cymreig. Roedd yn fab-yng-nghyfraith i Thomas Gee, cyhoeddwr y gwyddoniadur hwnnw.

Ganwyd John Parry ger Wrecsam yn 1812. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Bala a Phrifysgol Caeredin. Yn 1843 penodwyd ef yn athro yng Ngholeg y Bala a bu'n gweithio yno am ran helaeth gweddill ei oes. Bu farw yn 1874.

Cofir Parry fel prif olygydd Y Gwyddoniadur Cymreig (neu'r Encyclopaedia Cambrensis), y gwaith gwyddoniadurol mwyaf uchelgeisiol erioed yn yr iaith Gymraeg. Dan olygyddiaeth Parry hyd ei farwolaeth, cafodd ei gyhoeddi mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 gan Thomas Gee ar ei wasg enwog yn nhref Dinbych (Gwasg Gee). Erys y cyhoeddiad mwyaf yn y Gymraeg hyd heddiw.

[golygu] Cyfeiriadau

  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922)

SEO Tools wymiana linkami system wymiany linków tanie kredyty gotówkowe kreatyna Plaza 3 star hotel Los Angeles krynica noclegi Sejm Tyk