Blwch offerIeithoedd eraill
|
John LockeRoedd John Locke (29 Awst 1632 – 28 Hydref 1704) yn Sais oedd yn byw yn y 17eg ganrif; bu fyw drwy'r Pla Du a than mawr Llundain. Roedd yn fyw yn ystod cyfnod cynnar/arbrofol yn y system quasi-ddemocrataidd Frenhinol a Seneddol. Y prif themâu sydd dan drafodaeth yn ei weithiau ydy cymdeithas, hawliau ac eiddo. Roedd llawer o'i syniadau wedi bod yn ddylanwad cryf ar gyfraith yr Unol Daleithiau; roedd yn amddiffyn coloneiddio.
[golygu] Locke ar hawliauCred Locke fod yna hawliau naturiol mewn grym; cred fod y cyfreithiau naturiol yma yn deillio gan Dduw. Noda fod pawb yn eiddo i Dduw a phawb a'r gallu i resymu. Felly gan ein bod ni gyd yn hafal (h.y. yn eiddo i Dduw) ac ein bod ni'n medru rhesymu noda Locke os ydym ni'n mwynhau yr hawliau naturiol fe ddylem ni barchu fod eraill eisiau'r run hawliau hefyd. Noda fod hawl gan ddyn amddiffyn ei hun a chosbi pobl sy'n torri'r cyfreithiau/hawliau naturiol [golygu] Locke ar awdurdodMae Locke yn nodi fod ei ymdriniaeth ef yn wahanol i un Hobbes, ef sy'n trafod dyn yn y cyflwr naturiol tra bod Hobbes yn ei drafod mewn cyflwr o ryfel. Gwahaniaeth arall rhwng Lock a Hobbes ydy fod Locke yn credu fod hawl gwrthwynebu'r awdurdod. Cred Hobbes fod yr awdurdod yn absoliwt sofran, dim modd ei wrthwynebu. Ond cred Locke fod hawl ei wrthwynebu os yw'n methu yn ei dasg o warchod hawliau naturiol pobl. [golygu] Locke ar EiddoCredu fod y byd a'i ffrwythau i bawb yn gyffredin; ond mae rhoi gwaith mewn i rywbeth yn ei wneud yn eiddo i chi. E.e. dwr yn y ffynnon yn eiddo i bawb - dwr wedi ei godi o'r ffynnon yn eiddo i'r dyn a'i gododd o’r ffynnon. Defnyddia Locke y theori yma yn ei amddiffyniad o goloneiddio. Er fod y tir yn eiddo i bawb, gan gynnwys y brodorion; oherwydd mae llafur a thechnoleg y gorllewinwyr sydd wedi cloddio am y mwynau ayyb.. Y gorllewinwyr sydd yn berchen ar yr eiddo oherwydd nhw gwnaeth y llafur. [golygu] Prif weithiau
[golygu] Gwaith na chafodd ei gyhoeddi yn ystod ei oes
|