|
|
Gwledydd y byd
Sillafiad enwau gwledydd
Ceir amryw ffyrdd o sillafu enwau gwledydd yn Gymraeg. Mae'r Atlas Cymraeg Newydd (1999, Golygydd Gareth Jones) yn dilyn y sillafiad yn y wlad ei hun (neu'r fersiwn ryngwladol yn yr orgraff Rufeining a arddelir gan y gwledydd, e.e. Kuwait) os nad oes enw Cymraeg cyfarwydd eisioes yn bod, e.e. yr Aifft. Mae Geiriadur yr Academi (1995, Gwasg Prifysgol Cymru) yn ysgrifennu enwau gwledydd yn ôl sain y llythrennau yn ôl yr wyddor Gymraeg, lle bo hynny'n bosib, e.e. Ffiji yn hytrach na Fiji.
Mae'r rhestr yn dilyn yr Atlas Cymraeg gan geisio cymryd i ystyriaeth yn ogystal argymhellion Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a gyhoeddodd ei rhestr o enwau lleoedd yn 2007.
[golygu] Gweler hefyd
|