|
|
Ffrangeg
Ffrangeg (Ffrangeg: Français) yw iaith frodorol Ffrainc. Siaredir Ffrangeg mewn 53 o wledydd eraill yn y byd. Ceir y rhan fwyaf o'r gwledydd lle siaredir Ffrangeg yng Ngogledd a Gorllewin Affrica a'r Caribî. Yn Ewrop, siaredir yn Lwcsembwrg a rhannau o Wlad Belg ac o'r Swistir, yn ogystal â Ffrainc. Yn ogystal mae Ffrangeg yn iaith swyddogol yn Quebec, Canada.
Mae llenyddiaeth Ffrangeg yn un o lenyddiaethau mwyaf y byd.
[golygu] Ymadroddion Cyffredin
- français : Ffrangeg
- gallois : Cymraeg
- anglais : Saesneg
- salut! : helô! / hwyl! (Gallwch ddweud salut! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
- ça va? : sut mae?
- bonjour! : bore/p'nawn da!
- bonsoir! / bonne soirée! : noswaith dda!
- au revoir! : da boch chi! / Hwyl fawr!
- bonne nuit! : nos da!
- excusez-moi! : esgusodwch fi! (er mwyn tynnu sylw)
- pardon! : esgusodwch fi! (er mwyn mynd heibio)
- s'il vous plaît : os gwelwch chi'n dda
- merci / non merci : dim diolch (Gofalwch chi! Gall merci feddwl "diolch" neu "dim diolch". Peidiwch â dweud merci ! nes bod y peth yn ddiogel yn eich dwylo! Os ydy e ddim yn eich dwylo eto dywedwch je veux bien ! yn hytrach na merci ! neu gewch chi 'mohono fe.)
- merci bien : diolch
- merci beaucoup : diolch yn fawr
- de rien : da chi (pan fydd rhywun yn dweud merci beaucoup, atebwch gyda de rien.)
- (je suis) desolé(e) : mae'n flin gen i
- oui : ie / do / oes etc.
- si : ie / do / oes etc. pan fyddych chi'n anghytuno â rhywun.
- non : nage / naddo / nag oes etc.
- Bon appétit! : Mwynhewch eich bwyd!
- À votre santé! / À la vôtre! : Iechyd da!
Ffrangeg yn y byd
Allwedd:
Glas tywyll: mamiaith;
Glas: iaith gweinyddol;
Glas golau: iaith diwylliant;
Gwyrdd: lleiafrif Ffrangeg.
[golygu] Pethau Maen Nhw'n Dweud yn Aml
- bordel : lle didrefn (yn wreiddiol - tŷ wedi wneud o fyrddiau pren), Bordel! : Yfflon wen!
- Ce n'est pas grave. : Dydy e ddim yn ddifrifol.
- Je m'en fiche! : Dwi'n malio dim! (neu braidd yn gryfach -) Je m'en fous! : Dwi'n malio 'mor diawl!
- oh là là! : o diar!
[golygu] Geiriau Diddorol
- baragouiner : baldorddi (Maen nhw'n dweud mae dynwared y Llydáwyr yn baldorddi am y bara a'r gwin wrth fwyta ydy gwraidd y gair hwn.)
- chauffard : gyrrwr anystyriol/diofal
[golygu] Cysylltiadau
|