Blwch offerIeithoedd eraill
|
Comin WicifryngauYstorfa rydd o ddelweddau, ffeiliau sain ac amlgyfrwng eraill yw Comin Wicifryngau (Wikimedia Commons, hefyd "Commons" neu "Wikicommons"). Un o brosiectau Sefydliad Wicifryngau yw hi, a gellir prosiectau eraill ar wasanaethwyr Wicifryngau, e.e. Wicipedia, Wiciadur a Wicillyfrau, defnyddio ffeiliau sydd wedi cael eu huwchlwytho i'r ystorfa fel ffeiliau lleol.
[golygu] HanesLansiodd y prosiect ar 7 Medi 2004. Ym mis Tachwedd 2004, cafodd y 10,000fed ffeil ei huwchlwytho. [golygu] IeithoeddPrif iaith y Comin yw Saesneg, ond mae'n bosibl ffurfweddu'r rhyngwyneb (yn newisiadau'r defnyddwr) i ddefnyddio unrhyw iaith arall. Mae rhai o'r tudalennau wedi cael eu cyfieithu i fewn i ieithoedd eraill, e.e. yr Hafan yn Gymraeg. [golygu] HawlfreintiauDydy Comin Wicifryngau dim yn caniatau uwchlwythiadau o dan drwydded di-rydd, yn cynnwys trwyddedau sydd yn cyfyngu arferiadau masnachol o faterion, neu "fair use". Mae trwydded dderbyniol yn cynnwys y Drwydded Ddogfen Rydd GNU, amrywiadau Creative Commons heblaw cyfyngiadau ar arferiadau masnachol, a'r parth cyhoeddus. [golygu] Cysylltiadau allanol |