Gwlad yn Ne America yw Gweriniaeth Bolifia neu Bolifia (Sbaeng: República de Bolivia, IPA: /reˈpuβ̞lika ð̞e β̞oˈliβ̞ja/). Cafodd y wlad ei henwi ar ôl Simón Bolívar. Y gwledydd cyfagos yw Brasil i'r gogledd ac i'r dwyrain, Paraguay a'r Ariannin i'r de a Chile a Pheriw i'r gorllewin.