Adolf Hitler
Roedd Adolf Hitler (20 Ebrill, 1889 - 30 Ebrill, 1945) yn arweinydd Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol (Nationalsozialistische Deutsche Arbeiterpartei) yn yr Almaen (a adnabyddir fel Plaid y Natsïaid) a daeth yn Führer und Reichskanzler (arweinydd a changhellor) yr Almaen. Ef sefydlodd y Trydydd Reich (1933-1945) Ar 30 Ebrill 1945 fe wnaeth Hitler gymryd gwenwyn a saethu ei hun yn y fwncr o ddan y Canghellordy yn Berlin.
Fe'i ganwyd yn Braunau am Inn, Awstria. Ymgais Hitler i greu Almaen Fwy (Grossdeutschland) gan ddechrau drwy uno Awstria â'r Almaen, a goresgyniad Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl oedd wrth wraidd yr Ail Ryfel Byd.
Roedd ganddo ef a'i blaid bolisi pendant o wrth-Semitiaeth a arweiniodd yn y pendraw at ymgais i ddileu'r Iddewon yn gyfan gwbl o Ewrop.
Am gyfnod hir roedd Eva Braun yn feistres iddo. Cyflawnodd hunanladdiad yn y byncer yn Berlin gyda Hitler.
- Der Untergang (Downfall) (2004) Ffilm Almaenig am ddyddiau olaf Adolf Hitler. Mae'n rhannol ddibynnol ar hunangofiant Traudi Junge, ysgrifenyddes iddo.
|